Cymraeg

BANANA MEINHOFF

(CWMNI MOESOL, YN FALCH O FOD YNG NGHYMRU)

GWREIDDIOL, HYNOD, MOESOL A DONIOL

Helo pawb. Yn gyntaf oll , croeso . Rwy'n gobeithio y byddwch yn hoffi ein gwefan ...

Rydym yn bennaf yn dîm dau berson ...

Mae un ohonom - fi - yn dod o Saundersfoot yn Sir Benfro . Mae fy mam yn naw deg oed ac yn byw yn y tŷ cafodd ei geni. Yr wyf yn teimlo fod  rhaid i mi ychwanegu oedd fy Nhadcu mamol yn löwr .Cyhoeddaf hyn I gyd er mwyn datgan fy nhgymwysterau Cymraeg rwy’n falch o ddweud, er, mae’n flin gennyf,nad ydwyf yn siaradwr Cymraeg. Mi oedd fy Nhadcu ond nid oedd fy Mamgu a nid yw fy Mam yn medru’r iaith. ‘Rwyf wedi bod i ddosbarthiadau Cymraeg a gobeithio i mi un dydd siarad iaith hyfryd y beirdd a’r nefoedd. Tan hynny, yr ymddiheuriad mwyaf. Fodd bynnag, os dymunwch gyfathrebu yn Gymraeg fe gaf ffrind i gyfieithu unrhywbeth ygrifenedig-ond yn anffodus, am y tro, fydd rhaid i mi ateb yn Saesneg.
 
Yn 2004 fe ddrechreuom fynd o gwmpas gwyliau cerddorol gyda eitemau  wnaethom ein hunain . Rydym yn dal i wneud llawer o'n eitemau ein hunain, neu ynhyd ag eraill , ond erbyn hyn rydym hefyd yn gwerthfawrogi'r cynllun gwreiddiol a syniadau arloesol eraill,  pobl sy'n gwneud cynnyrch a chelf sy'n gwella ein bywydau neu eu gwneud yn ychydig yn fwy o hwyl ...

Ceisiwn bod mor foesol, amgylcheddol ddi-niweidiol, cynaliadwy, masnachdegol , gwreiddiol , doniol a radical ac y gallwn fod . Ac er na fydd ein nwyddau bob amser yr holl bethau hyn, fel arfer bydd yna o leiaf un , os na cyfuniad ohonynt ...

Ceisiwn hefyd rhoi arallddewisiad i bobl yn hytrach na unffurfiaeth y stryd fawr ; gan ddarparu cynnyrch o ansawdd da, meddylgar, gwreiddiol ac arloesol a gwasanaethau sy'n gobeithio, yn dangos gall dillad ,dulliau dylunio a ffordd o fyw fod yn adfywiol a gwahanol.

Gobeithio byddwch yn hoffi'r hyn rydym yn ei wneud , ac yn diolch i chi am eich ymweliad !
Rydym yn croesawu unrhyw ymholiadau , cwestiynau neu mewnwelediadau.

Dymuniadau Gorau

A diolch ac ymweld â'n gwefan !

Wrth tîm  Banana Meinhoff .